Dyniaethau digidol

Mae dyniaethau digidol (a elwir weithiau'n ddyniaethau cyfrifiadurol) yn faes academaidd sy'n edrych ar y croesdoriad rhwng astudiaethau cyfrifiadurol a'r disgyblaethau dyniaethol.

Prif ffocws y maes yw digideiddio a dadansoddi deunyddiau sydd yn perthyn i'r dyniaethau traddodiadol, er ei fod hefyd yn ymwneud â deunyddiau sydd yn ddigidol i ddechrau. Ceir cyfuniad o fethodolegau o'r celfyddydau traddodiadol a disgyblaethau'r dyniaethau (hanes, athroniaeth, ieithyddiaeth, llenyddiaeth, celf, archeoleg, a cherddoriaeth) gyda methodolegau maes cyfrifiadureg (cyhoeddi digidol, archifo ac adfer data, dadansoddi a delweddu cyfrifiadurol).


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search